The International National Trusts Organisation (INTO)

Gweithio gyda’n gilydd i wrthsefyll newidiadau yn ein harfordir

Click here for English version

Mae safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngogledd Cymru wedi ymuno â phartneriaid yn Zanzibar, mewn rhaglen efeillio unigryw sydd wedi’i threfnu gan Sefydliad Rhyngwladol yr Ymddiriedolaethau Cenedlaethol (INTO).

Mae Porthdinllaen a Chastell Penrhyn ill dau wedi’u lleoli ar arfordir Gogledd Cymru, dros 5,000 o filltiroedd o Stone Town yn Zanzibar, sy’n ynys oddi ar arfordir dwyrain canolbarth Affrica. Er gwaetha’r pellter rhyngddynt, mae’r tri safle yn wynebu heriau tebyg sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd: maent yn gweld lefelau’r môr yn codi, yr arfordir yn erydu, stormydd mwy aml a mwy eithafol, llifogydd a phroblemau gyda lleithder.

Wyneb ffrynt yr Old Customs House yn Stone Town. Llun gan Sharida Diaz Gautier.

Wyneb ffrynt yr Old Customs House yn Stone Town. Llun gan Sharida Diaz Gautier.

Mae prosiect Gwrthsefyll Newid yr INTO yn dwyn ynghyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phump o sefydliadau treftadaeth yn y Dwyrain Canol a Dwyrain Affrica, i ddysgu gyda’i gilydd am sut i ddiogelu llefydd hanesyddol rhag y peryglon hyn. Fel rhan o’r prosiect hwn, a ariennir gan Gronfa Gwarchod Diwylliannau’r Cyngor Prydeinig, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gweithio’n agos â Chymdeithas Treftadaeth Stone Town Zanzibar, sy’n geidwaid ar yr Old Customs House, sef plasty arddull Omanaidd a godwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar lan y môr Mizingani yn Stone Town – ardal a ddynodwyd ei hun yn safle Treftadaeth Byd UNESCO yn 2000.

Meddai Hoshil Dhanji, cydlynydd gwaith cyfalaf yn y Gymdeithas Treftadaeth, ‘Mae’r Old Customs House wastad yn agored i ewyn dŵr y môr a lleithder, ac mae hyn yn achosi i’r rendrad calchog a’r gwyngalch ddirywio.  Rydyn ni hefyd yn gweld mwy a mwy o achosion o elfennau metelig mewn adeiladau yn cyrydu, gan gynnwys toeau haearn rhychog.’

‘Mae llifogydd dŵr glaw mynych yn mwydo’r sylfeini, gan achosi i’r halen a gludir mewn lleithder godi mewn capilarïau; mae hwn wedyn yn anweddu ac yn gwthio’r gronynnau halen i wyneb plastrau, rendradau a golchiadau. Mae hyn yn achosi i’r deunyddiau asglodi, caenu a phlicio. Oherwydd y glaw cynyddol sy’n syrthio y tu allan i’r tymor ni chaiff y waliau gyfle i sychu ac mae hynny’n arwain at dwf algâu, a hefyd at ddirywiad nodweddion pren yr adeilad.’

Cydnabyddiaeth am y llun: Makame Juma, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Treftadaeth Stone Town Zanzibar, ar lan y môr yn Stone Town. Mae effeithiau erydu a chyrydu gan halen i’w gweld yn glir ar wynebau’r adeiladau cyfagos.

Cydnabyddiaeth am y llun: Makame Juma, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Treftadaeth Stone Town Zanzibar, ar lan y môr yn Stone Town. Mae effeithiau erydu a chyrydu gan halen i’w gweld yn glir ar wynebau’r adeiladau cyfagos. Llun gan Sharida Diaz Gautier.

Gwnaed addasiadau i’r Old Customs House, gan gynnwys gosod to alwminiwm rhychiog newydd sy’n gallu gwrthsefyll cyrydiad halen yn well, a chafodd rendrad allanol yr adeilad ei drin i dynnu’r halen ohono cyn ei drwsio gan ddefnyddio technegau traddodiadol.

Pentref Porthdinllaen ym Mhen Llŷn.

Pentref Porthdinllaen ym Mhen Llŷn. Llun gan Phill Boyd.

Yn ôl ym Mhorthdinllaen ym Mhen Llŷn, mae’r pentref hardd a hynod boblogaidd hwn dan fygythiad cynyddol oddi wrth lifogydd a llithriad y llethrau. Bu Dewi Davies, rheolwr prosiectau o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, yn dweud wrthym am rai o’r addasiadau a wnaed eisoes i helpu i ddelio â hyn: ‘Dros nifer o flynyddoedd, rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu gwytnwch y pentref yn wyneb stormydd a llanw uchel – gan gynnwys gosod byrddau llifogydd llanw a chynyddu uchder y morgloddiau ar hyd y ffrynt – er mwyn rhoi i’r eiddo a saif yn y fan yma siawns dda i amddiffyn eu hunain, pan fydd y môr yn bygwth llifo drosodd.  Gwnaed gwaith peirianyddol ar y creigiau y tu ôl i’r pentref hefyd  – maent wedi cael eu draenio a’u pinio fel bod y llethrau bellach yn llawer llai tebygol o lithro mewn glaw trwm.’

Cydnabyddiaeth am y llun: Rheolwr Prosiectau Dewi Davies wrth ran o wyneb y creigiau ym Mhorthdinllaen lle mae tueddiad i’r llethrau lithro.

Cydnabyddiaeth am y llun: Rheolwr Prosiectau Dewi Davies wrth ran o wyneb y creigiau ym Mhorthdinllaen lle mae tueddiad i’r llethrau lithro. Llun gan Phill Boyd.

Fe wnaeth Ceri Williams, y rheolwr cyffredinol yng Nghastell Penrhyn a saif ar yr arfordir ychydig tu allan o Fangor, hefyd ddisgrifio fel mae gweithio gyda’r tîm yn Zanzibar wedi rhoi cyfle gwych iddynt ddysgu oddi wrth eraill ac adolygu eu cynlluniau eu hunain i ddiogelu’r castell hwn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’i erddi rhag newid hinsawdd. ‘Ers nifer o flynyddoedd, rydym wedi bod yn gweithio i roi sylw i effeithiau newid hinsawdd ar y castell; yn benodol, y lefelau dŵr uwch rydyn ni’n eu gweld ar y safle ac effeithiau stormydd. Mae’r gwaith y mae Cymdeithas Treftadaeth Stone Town Zanzibar wedi’i wneud yn eu cymunedau i feithrin sgiliau treftadaeth draddodiadol y bobl yn ddiddorol dros ben.’

Y tu allan i Gastell Penrhyn, Gwynedd.

Y tu allan i Gastell Penrhyn, Gwynedd. Llun gan Phill Boyd.

‘Gan fod Castell Penrhyn yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Cymru, UNESCO ers 2021, rwy’n teimlo y gallwn ddysgu llawer iawn gan ein partneriaid i harneisio angerdd a diddordeb y gymuned leol gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn sefydlu’r sgiliau angenrheidiol yn yr ardal leol er mwyn gwarchod y rhannau hyn o’r byd y mae iddynt arwyddocâd rhyngwladol.’

Cydnabyddiaeth am y llun: Y Rheolwr Cyffredinol, Ceri Williams, yn tynnu sylw at ôl dŵr sydd wedi treiddio i mewn wrth y fynedfa i Gastell Penrhyn.

Cydnabyddiaeth am y llun: Y Rheolwr Cyffredinol, Ceri Williams, yn tynnu sylw at ôl dŵr sydd wedi treiddio i mewn wrth y fynedfa i Gastell Penrhyn. Llun gan Phill Boyd.

Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd ar-lein yn 2023 a 2024, bydd un aelod o dîm Gogledd Cymru yn teithio allan i Zanzibar ym mis Hydref i gysylltu’n uniongyrchol â Chymdeithas Treftadaeth Stone Town. Bydd gwaith tîm y Gymdeithas Treftadaeth, i gysylltu’r cymunedau lleol â’u treftadaeth, a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’r effaith y mae newid hinsawdd yn ei chael ar y llefydd sy’n annwyl iddynt, yn ei ysbrydoli, felly hefyd eu hymdrechion i feithrin sgiliau adeiladu traddodiadol a fydd yn hanfodol i adfer ac addasu safleoedd hanesyddol er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.

Yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig nid yn unig lliniaru yn erbyn newid hinsawdd drwy weithio i leihau allyriadau carbon, ond hefyd addasu, drwy wneud llefydd hanesyddol a hardd yn fwy gwydn yn wyneb effeithiau newid hinsawdd. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein hadroddiad tirnod, A Climate for Change.

Mae ‘Gwrthsefyll Newid’ yn brosiect gan Sefydliad Rhyngwladol yr Ymddiriedolaethau Cenedlaethol, a ariennir gan Gronfa Gwarchod Diwylliannau’r Cyngor Prydeinig, mewn partneriaeth â’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.