Gweithio gyda’n gilydd i wrthsefyll newidiadau yn ein harfordir
Click here for English version
Mae safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngogledd Cymru wedi ymuno â phartneriaid yn Zanzibar, mewn rhaglen efeillio unigryw sydd wedi’i threfnu gan Sefydliad Rhyngwladol yr Ymddiriedolaethau Cenedlaethol (INTO).
Mae Porthdinllaen a Chastell Penrhyn ill dau wedi’u lleoli ar arfordir Gogledd Cymru, dros 5,000 o filltiroedd o Stone Town yn Zanzibar, sy’n ynys oddi ar arfordir dwyrain canolbarth Affrica. Er gwaetha’r pellter rhyngddynt, mae’r tri safle yn wynebu heriau tebyg sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd: maent yn gweld lefelau’r môr yn codi, yr arfordir yn erydu, stormydd mwy aml a mwy eithafol, llifogydd a phroblemau gyda lleithder.
Mae prosiect Gwrthsefyll Newid yr INTO yn dwyn ynghyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phump o sefydliadau treftadaeth yn y Dwyrain Canol a Dwyrain Affrica, i ddysgu gyda’i gilydd am sut i ddiogelu llefydd hanesyddol rhag y peryglon hyn. Fel rhan o’r prosiect hwn, a ariennir gan Gronfa Gwarchod Diwylliannau’r Cyngor Prydeinig, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gweithio’n agos â Chymdeithas Treftadaeth Stone Town Zanzibar, sy’n geidwaid ar yr Old Customs House, sef plasty arddull Omanaidd a godwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar lan y môr Mizingani yn Stone Town – ardal a ddynodwyd ei hun yn safle Treftadaeth Byd UNESCO yn 2000.
Meddai Hoshil Dhanji, cydlynydd gwaith cyfalaf yn y Gymdeithas Treftadaeth, ‘Mae’r Old Customs House wastad yn agored i ewyn dŵr y môr a lleithder, ac mae hyn yn achosi i’r rendrad calchog a’r gwyngalch ddirywio. Rydyn ni hefyd yn gweld mwy a mwy o achosion o elfennau metelig mewn adeiladau yn cyrydu, gan gynnwys toeau haearn rhychog.’
‘Mae llifogydd dŵr glaw mynych yn mwydo’r sylfeini, gan achosi i’r halen a gludir mewn lleithder godi mewn capilarïau; mae hwn wedyn yn anweddu ac yn gwthio’r gronynnau halen i wyneb plastrau, rendradau a golchiadau. Mae hyn yn achosi i’r deunyddiau asglodi, caenu a phlicio. Oherwydd y glaw cynyddol sy’n syrthio y tu allan i’r tymor ni chaiff y waliau gyfle i sychu ac mae hynny’n arwain at dwf algâu, a hefyd at ddirywiad nodweddion pren yr adeilad.’
Gwnaed addasiadau i’r Old Customs House, gan gynnwys gosod to alwminiwm rhychiog newydd sy’n gallu gwrthsefyll cyrydiad halen yn well, a chafodd rendrad allanol yr adeilad ei drin i dynnu’r halen ohono cyn ei drwsio gan ddefnyddio technegau traddodiadol.
Yn ôl ym Mhorthdinllaen ym Mhen Llŷn, mae’r pentref hardd a hynod boblogaidd hwn dan fygythiad cynyddol oddi wrth lifogydd a llithriad y llethrau. Bu Dewi Davies, rheolwr prosiectau o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, yn dweud wrthym am rai o’r addasiadau a wnaed eisoes i helpu i ddelio â hyn: ‘Dros nifer o flynyddoedd, rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu gwytnwch y pentref yn wyneb stormydd a llanw uchel – gan gynnwys gosod byrddau llifogydd llanw a chynyddu uchder y morgloddiau ar hyd y ffrynt – er mwyn rhoi i’r eiddo a saif yn y fan yma siawns dda i amddiffyn eu hunain, pan fydd y môr yn bygwth llifo drosodd. Gwnaed gwaith peirianyddol ar y creigiau y tu ôl i’r pentref hefyd – maent wedi cael eu draenio a’u pinio fel bod y llethrau bellach yn llawer llai tebygol o lithro mewn glaw trwm.’
Fe wnaeth Ceri Williams, y rheolwr cyffredinol yng Nghastell Penrhyn a saif ar yr arfordir ychydig tu allan o Fangor, hefyd ddisgrifio fel mae gweithio gyda’r tîm yn Zanzibar wedi rhoi cyfle gwych iddynt ddysgu oddi wrth eraill ac adolygu eu cynlluniau eu hunain i ddiogelu’r castell hwn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’i erddi rhag newid hinsawdd. ‘Ers nifer o flynyddoedd, rydym wedi bod yn gweithio i roi sylw i effeithiau newid hinsawdd ar y castell; yn benodol, y lefelau dŵr uwch rydyn ni’n eu gweld ar y safle ac effeithiau stormydd. Mae’r gwaith y mae Cymdeithas Treftadaeth Stone Town Zanzibar wedi’i wneud yn eu cymunedau i feithrin sgiliau treftadaeth draddodiadol y bobl yn ddiddorol dros ben.’
‘Gan fod Castell Penrhyn yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Cymru, UNESCO ers 2021, rwy’n teimlo y gallwn ddysgu llawer iawn gan ein partneriaid i harneisio angerdd a diddordeb y gymuned leol gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn sefydlu’r sgiliau angenrheidiol yn yr ardal leol er mwyn gwarchod y rhannau hyn o’r byd y mae iddynt arwyddocâd rhyngwladol.’
Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd ar-lein yn 2023 a 2024, bydd un aelod o dîm Gogledd Cymru yn teithio allan i Zanzibar ym mis Hydref i gysylltu’n uniongyrchol â Chymdeithas Treftadaeth Stone Town. Bydd gwaith tîm y Gymdeithas Treftadaeth, i gysylltu’r cymunedau lleol â’u treftadaeth, a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’r effaith y mae newid hinsawdd yn ei chael ar y llefydd sy’n annwyl iddynt, yn ei ysbrydoli, felly hefyd eu hymdrechion i feithrin sgiliau adeiladu traddodiadol a fydd yn hanfodol i adfer ac addasu safleoedd hanesyddol er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.
Yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig nid yn unig lliniaru yn erbyn newid hinsawdd drwy weithio i leihau allyriadau carbon, ond hefyd addasu, drwy wneud llefydd hanesyddol a hardd yn fwy gwydn yn wyneb effeithiau newid hinsawdd. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein hadroddiad tirnod, A Climate for Change.
Mae ‘Gwrthsefyll Newid’ yn brosiect gan Sefydliad Rhyngwladol yr Ymddiriedolaethau Cenedlaethol, a ariennir gan Gronfa Gwarchod Diwylliannau’r Cyngor Prydeinig, mewn partneriaeth â’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.